Mark Evans appointed new Law Society president | Penodi Mark Evans yn llywydd newydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
News
Mark Evans has been inaugurated as the 181st president of the Law Society of England and Wales. He will be supported throughout his year in office by Brett Dixon, vice president and Dana Denis-Smith, deputy vice president.
Mark is the third Law Society president to come from Wales, where he has made it his mission to support the next generation of solicitors at the start of their careers, regardless of their background.
Currently a lecturer at the University of Law, Mark worked in property and private law for 28 years before moving into education.
He has been involved with regional and national law societies since 2010, leading the Cheshire and North Wales Law Society as president in 2014 and serving as chair of the Wales Committee.]In 2015, he joined the Law Society of England and Wales as the Council member for North Wales.
Commenting on his appointment, Mark Evans said: “I am honoured to serve as Law Society president as we round out our bicentennial year. During my presidential year I look forward to championing the profession in England and Wales and demonstrating to the next generation that there is a place for them in the legal sector. I will also encourage our members to look to the future with aspiration, confidence and optimism.
“As president, I will raise awareness of ‘legal deserts’ across England and Wales, where solicitor numbers are declining and communities are struggling to access legal advice and justice. To help address this, I want to highlight non-traditional routes into the profession and help to equip small and medium-sized law firms with the tools they need to ensure access to justice.”
A profession fit for the future
According to the Law Society’s annual statistics report 2023*, 33,000 solicitors are expected to be admitted to the profession by 2027.
Mark will continue to inspire the next generation by enhancing the quality and standards of legal education and training.
Mark added: “There are still significant challenges for prospective solicitors, particularly for those from disadvantaged backgrounds. I want to ensure young people are aware of the routes they can take to qualify and are confident that their legal education and training prepares them well for their careers.
“It is critical that aspiring solicitors in Wales have access to the same opportunities as those in England. This year, I will continue to urge the Welsh government to match the offer available to young people in England and fund the level 7 apprenticeship so students can stay and train in Wales, therefore reducing legal deserts.
“The focus on legal services in the UK government’s Industrial Strategy is also welcome. We now need to hold the government accountable on its commitment to technology, so firms of all sizes can access the skilled workforce they need to thrive as the sector continues to move forward.”
Championing our members
This year, the Law Society will launch its flagship Get Involved strategy, designed to ensure solicitors from all walks of life can help shape the decisions that affect their day-to-day practice.
Mark will encourage members to participate in the member advisory forum to share their opinions and expertise with the Law Society and gain recognition at local and national levels for their contributions to the profession.
Mark said: “Solicitors are part of a diverse community, with many volunteering their time to strengthen the profession locally and nationally. As president, I want to recognise those contributions and to inspire more solicitors to raise their voices and help shape the future of the profession.”
Supporting solicitor wellbeing
Mark will also work with sector partners to speak out on mental health and wellbeing and to support solicitors in managing their own welfare.
This includes promoting the outcomes of LawCare’s Life in the Law survey**, which explores mental health and wellbeing in the legal sector.
Mark commented: “Long hours, high workloads and client care can have an impact on solicitors. It is critical that we continue the conversation about mental health and wellbeing and ensure that it is not stigmatised.
“This year, I aim to support solicitors by holding crucial discussions on wellbeing across the legal sector and by engaging with local law societies, communities and networks to ensure we are united in prioritising our members’ welfare.
“I will champion solicitor wellbeing, encourage the profession to become more inclusive and to provide the support that solicitors need to thrive.”
Notes to editors
- The Law Society has three elected office holders: the president, vice president and deputy vice president. They each hold office for one year.
- Each year the council elects the deputy vice president; the previous year's deputy vice president becomes the vice president, and the vice president becomes president.
- The handover takes place at the annual general meeting – held this year on 8 October.
- The office holders are the Law Society's main ambassadors and represent the organisation at home and abroad.
- The office of president is a full-time appointment and the president is chair of the Law Society Council, the governing body of the Law Society.
- The Law Society’s office holder line up is completed by vice president Brett Dixon and deputy vice president Dana Denis-Smith.
- Photos of the office holders are available on request.
*Read the Law Society’s annual statistics report 2023.
**Learn more about LawCare’s Life in the Law survey.
About the Law Society
The Law Society is celebrating 200 years of supporting solicitors in England and Wales.
It is the independent professional body that works globally to support and represent solicitors, promoting the highest professional standards, the public interest and the rule of law.
Press office contact: Andrea Switzer | 020 8049 3794
Penodi Mark Evans yn llywydd newydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
Mae Mark Evans wedi'i urddo fel 181fed llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd yn cael ei gefnogi trwy gydol ei flwyddyn yn y swydd gan yr is-lywydd, Brett Dixon, a’r dirprwy is-lywydd, Dana Denis-Smith.
Mark yw'r trydydd Cymro i gael ei benodi yn llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr ac mae e’n rhoi pwys mawr ar gefnogi'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, waeth beth fo'u cefndir.
Mae Mark yn ddarlithydd ar hyn o bryd ym Mhrifysgol y Gyfraith, ond bu’n gweithio ym maes cyfraith eiddo a phreifat am 28 mlynedd cyn symud i’r byd addysg. Mae wedi bod yn ymwneud â Chymdeithas y Cyfreithwyr ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol ers 2010, gan arwain Cymdeithas y Cyfreithwyr Swydd Gaer a Gogledd Cymru fel llywydd yn 2014 a gwasanaethu fel cadeirydd Pwyllgor Cymru. Yn 2015, ymunodd â Chymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer Cymru a Lloegr fel aelod o’r cyngor dros Ogledd Cymru.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Mark Evans: “Mae'n anrhydedd i mi wasanaethu fel llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr wrth i ni nesáu at ddiwedd blwyddyn ein deucanmlwyddiant. Yn ystod fy mlwyddyn fel llywydd rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo'r proffesiwn yng Nghymru a Lloegr a dangos i'r genhedlaeth nesaf bod lle iddyn nhw ym myd y gyfraith. Byddaf hefyd yn annog ein haelodau i edrych tua'r dyfodol gyda dyhead, hyder ac optimistiaeth.
“Fel llywydd, byddaf yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod 'anialwch cyfreithiol' yn bodoli mewn ardaloedd ledled Cymru a Lloegr. Mae nifer y cyfreithwyr yn yr ardaloedd hyn yn gostwng a chymunedau'n cael trafferth cael mynediad at gyngor cyfreithiol a chyfiawnder. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, rwyf am dynnu sylw at lwybrau annhraddodiadol i mewn i'r proffesiwn a helpu i arfogi cwmnïau cyfreithiol bach a chanolig gyda'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau mynediad at gyfiawnder.”
Proffesiwn sy'n addas ar gyfer y dyfodol
Yn ôl Adroddiad Ystadegau Blynyddol Cymdeithas y Cyfreithwyr 2023*, disgwylir i 33,000 o gyfreithwyr gael eu derbyn i'r proffesiwn erbyn 2027. Bydd Mark yn parhau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy wella ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y maes.
Ychwanegodd Mark: “Mae heriau sylweddol yn bodoli o hyd i ddarpar gyfreithwyr, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Rwyf am sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r llwybrau y gallant eu cymryd er mwyn cymhwyso a’u bod yn hyderus bod eu haddysg a'u hyfforddiant cyfreithiol yn eu paratoi'n dda ar gyfer eu gyrfaoedd.
“Mae'n hanfodol bod cyfreithwyr uchelgeisiol yng Nghymru yn cael mynediad at yr un cyfleoedd â'r rhai yn Lloegr. Eleni, byddaf yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i gynnig yr hyn sydd ar gael i bobl ifanc yn Lloegr i bobl ifanc Cymru hefyd gan ariannu'r brentisiaeth lefel 7 fel y gall myfyrwyr aros yng Nghymru a hyfforddi yma. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau’r anialwch cyfreithiol.
“Mae'r ffocws ar wasanaethau cyfreithiol yn Strategaeth Ddiwydiannol llywodraeth y DU hefyd yn cael ei groesawu. Mae angen i ni nawr ddal y llywodraeth i gyfrif ynghylch ei hymrwymiad i dechnoleg, fel y gall cwmnïau o bob maint gael mynediad at y gweithlu medrus sydd ei angen arnynt i ffynnu wrth i'r sector barhau i symud ymlaen.”
Hyrwyddo ein haelodau
Eleni, bydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn lansio ei Strategaeth flaenllaw, Cymryd Rhan, sydd wedi'i chynllunio er mwyn sicrhau y gall cyfreithwyr o bob cefndir helpu i lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu hymarfer o ddydd i ddydd. Bydd Mark yn annog aelodau i gymryd rhan yn y Fforwm Cynghori Aelodau i rannu eu barn a'u harbenigedd gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ac ennill cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau i'r proffesiwn ar lefel leol a chenedlaethol.
Meddai Mark: “Mae cyfreithwyr yn rhan o gymuned amrywiol, gyda llawer yn gwirfoddoli eu hamser i gryfhau'r proffesiwn yn lleol ac yn genedlaethol. Fel llywydd rwyf am gydnabod y cyfraniadau hynny ac ysbrydoli mwy o gyfreithwyr i godi eu lleisiau a helpu i lywio dyfodol y proffesiwn.”
Cefnogi Lles Cyfreithwyr
Bydd Mark hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector i siarad yn agored am iechyd meddwl a lles meddyliol ac i gefnogi cyfreithwyr i reoli eu lles eu hunain. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo canlyniadau arolwg Life in the Law a gynhaliwyd gan LawCare**, a oedd yn archwilio iechyd meddwl a lles meddyliol yn y sector cyfreithiol.
Meddai Mark: “Gall oriau hir, llwythi gwaith uchel a gofal cleientiaid gael effaith ar gyfreithwyr. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r sgwrs am iechyd meddwl a lles a sicrhau nad yw'n cael ei stigmateiddio.
“Eleni, fy nod i yw cefnogi cyfreithwyr trwy gynnal trafodaethau hanfodol ar les ar draws y sector cyfreithiol a thrwy ymgysylltu â chymdeithas y cyfreithwyr yn lleol yn ogystal â chymunedau a rhwydweithiau cyfreithiol lleol eraill i sicrhau ein bod yn unedig wrth flaenoriaethu lles ein haelodau.
“Byddaf yn hyrwyddo lles cyfreithwyr ac yn annog y proffesiwn i ddod yn fwy cynhwysol a darparu'r gefnogaeth sydd ei angen ar gyfreithwyr i ffynnu.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae tri deiliad swydd etholedig yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr: y llywydd, yr is-lywydd a'r dirprwy is-lywydd. Mae pob un ohonynt yn y swydd am flwyddyn
- Bob blwyddyn mae'r cyngor yn ethol y dirprwy is-lywydd; daw dirprwy is-lywydd y flwyddyn flaenorol yn is-lywydd, ac mae'r is-lywydd yn dod yn llywydd
- Mae'r trosglwyddiad yn digwydd yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol – a gynhelir eleni ar 8 Hydref
- Deiliaid y swyddi yw prif lysgenhadon Cymdeithas y Cyfreithwyr ac maen nhw’n cynrychioli'r sefydliad gartref a thramor
- Mae swydd y llywydd yn benodiad llawn amser ac mae'r llywydd yn gadeirydd Cyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr, sef corff llywodraethu Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Mae swyddogion eraill Cymdeithas y Cyfreithwyr eleni yn cynnwys yr is-lywydd Brett Dixon a'r dirprwy is-lywydd Dana Denis-Smith
- Mae lluniau o'r deiliaid swyddi ar gael ar gais
- *Darllenwch Adroddiad Ystadegau Blynyddol Cymdeithas y Cyfreithwyr 2023
- **Dysgwch fwy am arolwg Life in the Law gan LawCare
Ynglŷn â Chymdeithas y Cyfreithwyr
Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn dathlu 200 mlynedd o gefnogi cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Dyma'r corff proffesiynol annibynnol sy'n gweithio yn fyd-eang i gefnogi a chynrychioli cyfreithwyr, gan hyrwyddo'r safonau proffesiynol uchaf, budd y cyhoedd a rheolaeth y gyfraith.