2026 St David’s Day Celebration in Wales | Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cyhoeddi Dathliad Dydd Gŵyl Dewi 2026 yng Nghymru
2026 St David’s Day Celebration in Wales
We will host our St David’s Day Celebration at National Museum Cardiff on 26 February 2026.
The celebration will bring together Wales’ legal community for a unique opportunity to connect with peers, hear from leading voices and celebrate Welsh identity in the heart of the nation’s capital.
Guests will enjoy Welsh food and drink, alongside a vibrant programme of live entertainment showcasing the very best of Wales’ culture.
Headlining the event is Dr Rowan Williams, former Archbishop of Canterbury and co-chair of the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales.
Born in Swansea and a renowned thinker, writer and public figure, Dr Williams will reflect on the commission’s landmark findings and its evidence for devolving justice to Wales.
The celebration will also feature performances from the renowned Morriston Orpheus Choir, the Charlie Herbert Trio, and spectacular magic from Stephen James and Gary Jones, proud members of the Magic Circle.
Robin Morgan, one of Wales’ leading stand-up comedians and a familiar voice from BBC’s Mock the Week and the News Quiz, will also take to the stage.
The programme will open with remarks from Mark Davies, chair of the National Board for Wales, and close with a keynote address by Mark Evans, the recently inaugurated 181st president of the Law Society and only the third Welsh solicitor to hold the role.
Jonathan Davies, head of Wales at the Law Society, said: “St David’s Day is a time to celebrate Welsh culture and identity. Our celebration is also about bringing together Wales’ legal community to recognise its achievements and its contribution to public life.
“We are proud to host this unique event in the heart of Cardiff, and we look forward to welcoming colleagues from across the profession.”
The event is free to attend and open to all legal professionals, members of the judiciary, barristers, academics and law students.
Register by Friday 16 January 2026.
Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cyhoeddi Dathliad Dydd Gŵyl Dewi 2026 yng Nghymru
Bydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cynnal ei Dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 26 Chwefror 2026.
Bydd y dathliad yn dod â chymuned gyfreithiol Cymru at ei gilydd gyda chyfle unigryw i gysylltu â chymheiriaid, clywed gan leisiau blaenllaw a dathlu’n hunaniaeth Gymreig yng nghalon ein prifddinas. Bydd gwesteion yn mwynhau bwyd a diod o Gymru, ynghyd â rhaglen fywiog o adloniant byw a fydd yn arddangos y gorau o’n diwylliant.
Yn arwain y digwyddiad bydd Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint a chyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Wedi’i eni yn Abertawe ac yn feddyliwr, yn awdur ac yn ffigwr cyhoeddus adnabyddus, bydd Dr Williams yn myfyrio ar ganfyddiadau nodedig y Comisiwn a’i dystiolaeth dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
Bydd y dathliad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Orpheus Treforys, Triawd Charlie Herbert, a bydd yna bob math o hud ysblennydd gan Stephen James a Gary Jones, aelodau balch o’r Magic Circle.
Bydd Robin Morgan, un o ddigrifwyr stand-yp mwyaf blaenllaw Cymru a llais cyfarwydd ar raglenni Mock the Week a the News Quiz y BBC, hefyd yn camu i’r llwyfan.
Bydd y rhaglen yn agor gyda sylwadau gan Mark Davies, Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Cymru, ac yn cloi gyda phrif anerchiad gan Mark Evans, a gafodd ei benodi’n 181ain llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ddiweddar - y trydydd cyfreithiwr o Gymru yn unig i ddal y rôl.
Dywedodd Jonathan Davies, Pennaeth Cymru yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn amser i ddathlu diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae ein dathliad hefyd yn ymwneud â dod â chymuned gyfreithiol Cymru at ei gilydd i gydnabod ei chyflawniadau a'i chyfraniad at fywyd cyhoeddus. Rydyn ni’n falch o gynnal y digwyddiad unigryw hwn yng nghalon Caerdydd, ac edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr o bob rhan o'r proffesiwn.”
Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim ac yn agored i bob gweithiwr proffesiynol cyfreithiol, aelodau o’r farnwriaeth, bargyfreithwyr, academyddion a myfyrwyr y gyfraith. Mae’n rhaid cofrestru erbyn dydd Gwener 16 Ionawr 2026.